Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 9 Mawrth 2016

Amser y cyfarfod: 13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3544


(321)

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Dechreuodd yr eitem am 13:00

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Dechreuodd yr eitem am 13.46

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

3       Dadl ar Setliad Llywodraeth Leol 2016-17

Dechreuodd yr eitem am 14.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5988 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

5

21

54

Derbyniwyd y cynnig.

</AI3>

<AI4>

4       Dadl ar Setliad yr Heddlu 2016-17

Dechreuodd yr eitem am 15.09

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5989 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2016-2017 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

9

5

54

Derbyniwyd y cynnig.

</AI4>

<AI5>

5       Cyfnod 3 Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Tynnwyd yn ôl

</AI5>

<AI6>

6       Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i'r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

Dechreuodd yr eitem am 15.40

NDM5990 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn mabwysiadu'r Cod Ymddygiad diwygiedig ar gyfer Aelodau'r Cynulliad, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Mawrth 2016.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

7       Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)

Dechreuodd yr eitem am 15.42

NDM4945

Eluned Parrott (Canol De Cymru)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y ffaith bod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai hunanladdiad yw'r prif achos o farwolaeth ymhlith pobl ifanc rhwng 20 a 34 oed;

2. Yn cydnabod bod pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl mewn perygl arbennig ac amcangyfrifir bod gan 90 y cant o bobl sy'n ceisio cyflawni hunanladdiad neu'n marw o ganlyniad i hunanladdiad un neu fwy o gyflyrau iechyd meddwl;

4. Yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl i siarad yn agored am hunanladdiad a theimladau hunanladdol, i godi ymwybyddiaeth a helpu i sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael i deimlo eu bod yn dioddef ar eu pen eu hunain;

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gwella'r broses o gasglu data i adnabod y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf;

b) sicrhau bod cymorth dilynol ar gael i bobl sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar ôl hunan-niwed neu geisio cyflawni hunanladdiad;

c) darparu ffyrdd mwy effeithiol o gyfeirio pobl at wasanaethau gwrando ac eiriolaeth;

d) edrych ar gyflawni prosiectau megis y parth tawelwch yn Lerpwl sy'n darparu cyngor sydd ar flaen y gad mewn ffordd sy'n briodol i oedran ac sy'n apelio at bobl ifanc, ac enghreifftiau cenedlaethol a rhyngwladol eraill o arferion gorau; ac

e) asesu'r cymorth sydd ar gael i deuluoedd unigolion sydd â salwch meddwl.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

8       Dadl ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Dechreuodd yr eitem am 16.22

NDM5991 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau – a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi erbyn 2018.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod menywod sy'n gweithio yng Nghymru wedi wynebu cynnydd mwy mewn costau gofal plant nag mewn mannau eraill yn y DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5991 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod i gydnabod cyflawniad cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yng Nghymru, a'r angen parhaus i gyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau – a hynny'n benodol mewn bywyd cyhoeddus.

2. Yn nodi mai'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau cyfredol yw'r isaf a gofnodwyd erioed.

3. Yn nodi bod mwy o fenywod yn gweithio yn y DU nag erioed o'r blaen.

4. Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd tablau cynghrair sy'n rhestru cwmnïau mawr yn ôl trefn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael eu cyhoeddi erbyn 2018.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI8>

<AI9>

9       Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.17

</AI9>

<AI10>

10   Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.19

NDM5987 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cadw llywodraeth leol yn lleol - yr achos dros ddiogelu Sir Benfro rhag cynlluniau uno Llywodraeth Cymru.

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.36

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2016

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>